Math | protectoriaeth, trefedigaeth |
---|---|
Prifddinas | Herbertshöhe, Rabaul, Stephansort, Finschhafen, Friedrich-Wilhelmshafen |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | ymerodraeth drefedigaethol yr Almaen |
Gwlad | Ymerodraeth yr Almaen |
Cyfesurynnau | 4.2149°S 152.1606°E |
Arian | marc yr Almaen, New Guinean mark |
Roedd Gini Newydd Almaenig (Almaeneg: Deutsch-Neuguinea) yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Roedd yn wladfa o 1884 hyd 1914 pan gafodd ei gymryd gan luoedd arfog Awstralia ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn cynnwys rhan ogledd-ddwyreiniol Gini Newydd a sawl ynys gyfagos. Mae tir mawr Gini Newydd Almaenig ac ynysoedd cyfagos yr Ynysoedd Bismarck a gogledd Ynysoedd Solomon bellach yn rhan o Papua Gini Newydd.